Llandovery College Home Page
 

Adran Y Gymraeg

Un o brif weledigaethau Adran Y Gymraeg Coleg Llanymddyfri ydy cynnal cymuned Gymreig a Chymraeg o fewn y Coleg ynghyd â hyrwyddo'r ethos Gymreig.  Gwneir pob ymdrech i feithrin dealltwriaeth y disgyblion o ddiwylliant y Gymraeg a'i thraddodiadau  nid yn unig yn y gwersi Cymraeg  ond hefyd, ymysg pethau eraill, drwy'r Clwb Cymraeg wythnosol, Gweithgareddau'r Urdd,  Ymweliadau Theatr/Ffilm/Gweithdai yn y Coleg,  Eisteddfodau lleol a chenedlaethol a'r Capel Cymraeg. Yn wir, fe annogir myfyrwyr o bob oed i gymryd rhan ymhob agwedd o'r Gymraeg.

Rydym hefyd am feithrin balchder pob unigolyn a chodi hyder o'r iaith Gymraeg er mwyn i'r disgyblion sylweddoli gwerth gwybodaeth o'r Gymraeg i'w bywydau.

Mae'r Adran Gymraeg yn paratoi disgyblion i sefyll Arholiadau TGAU/AS/ Lefel A mewn Ail Iaith a Mamiaith.  Rhoir cyfleoedd i blant sefyll, pe dymunent wneud hynny, arholiadau TGAU ar ddiwedd Blwyddyn 9.

Mae gan Coleg Llanymddyfri rôl bendant i'w chwarae wrth gryfhau Cymreictod yr ardal. Dim ond trwy greu cymuned ysgol gadarn Gymreig y gallwn wneud hynny. Y bobl bwysicaf i arddel y Gymraeg o fewn yr ysgol ac yn y gymuned yw'r bobl ifanc eu hunain.

 
Wyn Morgan

Pennaeth Adran y Gymraeg

                

Llandovery College St David’s Day Eisteddfod

Llandovery College held its annual Eisteddfod, classes ranging from disco dancing to house choirs.  The day finished with a founders day dinner in the evening for the whole school with the winning house Tŷ Gruffydd being announced at the end of the evening. 

The Gwilym Price Blue Ribband Award for the best musical performance was presented to Catrin Davies (Yr 13).  Nia Beynon (Yr 12), won the Chair for a Welsh poem not exceeding 40 lines on the theme of "Damwain - Accident", whilst Bethan Thomson (Yr 9), won the Crown for the best English creative work.

A Founder’s Day service was held on St David’s Day in the College chapel.

In addition to the College Eisteddfod, the winners and many other Llandovery College pupils are taking part in the Urdd Eisteddfod


Eisteddfod Dydd Gwyl Dewi Coleg

Cynhaliwyd Eisteddfod flynyddol Coleg Llanymddyfri gyda'r cystadlaethau unwaith eto yn amrywio o ddawnsio disgo i ganu corawl.  Y beirniaid eleni oedd Mr Hugh Thomas, Mrs Ann Walters a Mr Martin Jones.Yn y nos fe gafwyd cinio arbennig i ddathlu sefydliad y Coleg ar gyfer yr holl fyfyrwyr a staff a chyhoeddwyd ar ddiwedd y cinio mai Ty Gruffydd a fu'n fuddugol eleni yn yr Eisteddfod.

 
Cafodd Rhuban Glas Gwilym Price ei chyflwyno i Catrin Davies(Bl 13) am y perfformiad cerddorol gorau yn yr Eisteddfod.  Ennillodd Nia Beynon ( Bl 12) y gadair am ddarn o farddoniaeth Gymraeg ddim mwy na deugain llinell ar y thema "Damwain".  Bethan Thomson (Bl 9) a ennillodd y goron am y gwaith creadigol orau yn yr Adran Saesneg.

 
Cafodd gwasanaeth i ddathlu sefydlu'r coleg ei gynnal ar Ddydd Gwyl Dewi yng nghapel y Coleg.

 
Yn ychwanegol at eisteddfod y Coleg , mae'r ennillwyr a llawer o ddisgyblion y Coleg yn cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghonwy.  Pob lwc iddyn nhw i gyd!

 
Ysgol Iau Gollop yn dathlu dydd Gwyl Dewi

Penderfynodd Cyngor yr ysgol Iau dorri i ffwrdd oddi wrth yr Eisteddfod draddodiadol eleni.  Trefnwyd diwrnod Cymreig lle cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau yn amrywio o goginio pice ar y man, i weithgareddau drama a chelf a chrefft

Ymwelodd Marian Pavell a'r ysgol gan ddysgu dawns gymreig i bob blwyddyn.

Yn ol Sophie Witt, aelod o gyngor yr ysgol " roedd hi'n ddiwrnod bendigedig a mwynheuais i yn fawr y dawnsio gwerin."





Today's Events
One - Day Event Team Championships at Stonar School
CCF Cadsaam Team - Ranges
Thomas Phillip Scholarship Examinations
12.30pm Housestaff Meeting

<< < May 2008 > >>
27282930123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031
1234567
Sign-up to the Warden's Bulletin