Llandovery College
Gollop Prep 3-11 |Senior |Sixth Form |Parents
French Welsh Spanish

Mae Coleg Llanymddyfri, sydd yn ysgol ddyddiol a phreswyl annibynnol yn Sir Gaerfyrddin, yng Ngorllewin Cymru, yn croesawu bechgyn a merched o oedran

3 -18. Mae’r Coleg, sydd yn un o’r hynaf ac uchel ei pharch yng Nghymru, yn meithrin pob plentyn, gan gynnig ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol ac hefyd mewn chwaraeon ynghyd â’r cyfle i ragori yn academaidd.

Am dros 160 o flynyddoedd, mae Coleg Llanymddyfri wedi cyfuno rhagoriaethau academaidd gyda’n hagwedd bugeiliol gofalgar, parch tuag at draddodiad ynghŷd â’r parodrwydd i edrych tua’r dyfodol. Mae ein Coleg ni yn dal i aros fel cymuned lle mae gonestrwydd o bwys; lle mae hiwmor a gwaith caled yn y dosbarth ac ar faes chwarae yn werthoedd yr un mor bwysig a’i gilydd a lle mae’r broses o addysgu yn gyfesur â’r gradd a gyflawnir. Mae gennym ni ddisgwyliadau uchel boed yn academaidd neu fel arall. Rydym yn ymroi i helpu eich plentyn i gyrraedd ei gwir botensial

Ymhob agwedd o fywyd yr ysgol, mae’r staff yn herio ac yn ysbrydoli’r disgyblion i fod y gorau y gallan nhw fod. Yn wir, yn ôl ein hanian, mae dysgu yn parhau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Yma mae gan eich plentyn aml gyfleoedd i ddysgu oddi wrth gyd-ddisgyblion eraill a ddaw o wahanol genhedloedd ac yn wir o bob rhan o’r byd. Mae cyfeillgarwch a wneir yma yn gyfeillgarwch a bery am oes.

Yn Llanymddyfri, gall eich plentyn fwynhau dysgu mewn lleoliad hardd a diogel lle mae adeiladau hynafol yn gyfochrog â chyfleusterau modern mewn campws coediog o dros 50 acr wedi ei amgylchynu gan Fannau Brycheiniog.

Mae pob prifathro yn annog ymwelwyr i ddod yn bersonol i’w hysgolion. Dw i ddim yn wahanol. Dw i yn wir gredu mai dim ond drwy ein gweld ni wrth ein gwaith y gallwch chi gael unrhyw fath o ddealltwriaeth o’n cymuned a’n pwrpas. Fe fydd y staff a’r disgyblion am groesawu eich teulu chithau i fewn i’n teulu ninnau. Gobeithio y cewch chi’r cyfle i ddod i ymweld a ni yma yn Llanymddyfri, ar adeg a fydd yn gyfleus i chi.

Mr Ian M Hunt BA. PGCE
Warden, Coleg Llanymddyfri

Cafwyd llwyddiant gan Goleg Llanymddyfri yn Eisteddfod Sir yr Urdd Dwyrain Myrddin a gafodd ei chynnal ym Mhontyberem ar brynhawn dydd Mercher Mawrth 17eg.  Bydd yr enillwyr canlynol yn mynd ymlaen i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Aberaeron yn ystod gwyliau’r Sulgwyn ym Mis Mai a dymunwn pob hwyl iddynt yno wrth iddynt gystadlu yn erbyn ysgolion ledled Cymru. Rachel Edwards – Unawd llinynnol bl 7 – 9, Carwyn Thomas – Unawd chwythbrennau bl 10 – 13, Unawd alaw werin bl 10 – 13, Grŵp llefaru iaith gyntaf Bl 7 – 9, Hefyd yn cystadlu yn y Sir gyda pherfformiadau penigamp oedd, George Lewes - Llefaru unigol i ddysgwyr bl 7 – 9 ( 2il), Grŵp llefaru ail iaith bl 7 – 9 (3ydd),