Cyn-ddisgybl yng Ngholeg Llanymddyfri ydwy i. Bûm i yn y Coleg o 1959 hyd at 1966. Tra'r oeddwn i yno dysgais i Gymraeg fel ail iaith. Carwyn James oedd yn athro Cymraeg arnaf i. Heblaw am y saith mlynedd a dreuliais yn y Coleg a'r pedair blwyddyn wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydw i wedi bod yn byw yn Lloegr gydol f'oes, ac felly nid yw fy Nghymraeg, efallai, cyn gryfed ag y gallai fod! Wrth chwilio am hen bapurau yn ddiweddar, deuthum o hyd i nifer o luniau a gymerwyd pan oeddwn i yn y Coleg - hanner can mlynedd yn ôl! Rwy'n gwybod fod gan yr Adran Gymraeg lluniau o gystadleuwyr buddugol yn Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd. Os ellwch chi eu defnyddio nhw, byddwn i'n hynod o falch. Fel y gellwch weld, ceisiwn gofio enwau'r bechgyn yn y lluniau (nid oedd merched yn y Coleg yr adeg honno), ond rwy'n wedi methu â'u hatgofio nhw i gyd. Dichon y gall Mr J Huw Thomas enwi pawb yn y lluniau hyn! Dymuniadau gorau i'r Adran Gymraeg, un o'm hen adrannau'r chweched dosbarth i (astudiais i'r Gymraeg hyd at Safon A fel dysgwr). Mike Thomas Parti Ddeusain dan 15 oed, buddugol yn Eisteddfod yr Urdd, Aberdâr, 1961
R Richards RD Parry MD Thomas DK Davies
(Enillasai parti o’r Coleg yr un cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd yn Nolgellau, 10ed o Fehefin 1960)
Parti Ddawsio Morris, Gŵyl Ddawnsio Gwerin yr Urdd, Port Talbot, 13ydd o Fehefin 1964. Hyfforddwyd y barti hon gan Dr IB Williams (yn ddiweddar o’r Bala)
??? TA Bennett *** MK Pate MD Thomas DW Smith DC Jones ??? D Thomas HE Jones PG Hughes WJ Ishmael ??? = nid wy’n cofio eu henw ; *** = cerddor nad oedd yn ddisgybl yn y Coleg
|




